Mae eich hunaniaeth wedi'i gwirio ac wedi'i chysylltu i'ch cyfrif Tŷ'r Cwmnïau
I weld eich cod personol Tŷ'r Cwmnïau, ewch i Reoli cyfrif (yn agor mewn tab newydd).
Beth yw cod personol Tŷ'r Cwmnïau?
Mae hwn yn god 11 nod sy'n cael ei roi i berson unwaith y byddant wedi gwirio ei hunaniaeth. Mae'r cod yn bersonol i chi, nid eich cwmni neu gwmni rydych chi'n gweithio iddo.
Bydd angen eich cod personol arnoch am amryw o resymau. Er enghraifft:
- fel rhan o rai ffeilio cwmnïau, fel y datganiad cadarnhau (yn agor mewn tab newydd)
- os ydych yn cael eich penodi fel cyfarwyddwr
- os byddwch yn dod yn berson â rheolaeth Arwyddocaol (PRhA) (yn agor mewn tab newydd)
Os ydych chi'n gyfarwyddwr neu'n PRhA, bydd angen i chi ddefnyddio cod personol Tŷ'r Cwmnïau i gysylltu eich hunaniaeth wedi'i gwirio â'n cofnodion. Mae hwn yn ofyniad, a bydd yn sicrhau ein bod yn gwybod bod y person cywir yn gysylltiedig â'r enw sydd gennym ar ffeil.
Gwiriwch a oes unrhyw beth arall y mae angen i chi ei wneud
Efallai y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio eich cod personol i gwblhau tasgau eraill i gydymffurfio â gofynion gwiriad hunaniaeth. Mae hyn yn dibynnu ar eich rôl, a phryd y gwnaethoch ddechrau'r rôl honno.
I ddarganfod a oes unrhyw beth arall y mae angen i chi ei wneud, edrychwch ar y cyfarwyddyd (yn agor mewn tab newydd).